Manylion y cwrs
Mae’n fwy na thebyg eich bod chi wedi clywed am Pass Plus – cwrs yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) o chwe gwers yrru sy’n helpu i roi rhagor o brofiad gwerthfawr i chi. Bydd yn eich dysgu i ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ar y ffyrdd a sefyllfaoedd traffig na chawsoch chi brofiad ohonyn nhw wrth ddysgu gyrru. Mae Pass Plus wedi gwneud llawer i gynyddu sgiliau a gwybodaeth pobl, wedi lleihau’r perygl iddyn nhw fod mewn damwain ar y ffordd ac wedi arbed arian ar yswiriant ceir. I gael gwybod rhagor am Pass Plus, cliciwch yma.
Ond beth yw Pass Plus Cymru?
Mae Pass Plus Cymru yn ddatblygiad sy’n cynnig llawer mwy na’r cynllun Pass Plus sylfaenol.
Beth mae’n ei Gynnwys?
Sesiwn theori gyda’r hwyr (gorfodol).
Rhyw 2 1/2 awr gyda hyfforddwr gyrru profiadol.
Mewn grwp o hyd at 16 o yrwyr ifanc.
Mae’r sesiwn rhyngweithiol yn trafod pob un o 6 elfen y Cynllun Pass Plus (cewch y manylion yma), materion gyrru amddiffynnol, yn ogystal ag ystyried agweddau pobl wrth yrru.
Hyfforddiant ar y ffordd
Ar ôl cael y sesiwn theori, caiff y gyrwyr ifanc eu rhannu’n barau priodol. Aiff pob pâr ymlaen i dreulio diwrnod cyfan, neu ddau sesiwn hanner-diwrnod, gan gymryd eu tro i gael hyfforddiant gyrru ar y ffordd gyda Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd. Cewch yr hyfforddiant cyn gynted â phosibl ar ôl astudio’r theori gyda’r hwyr.
Bydd yr hyfforddiant ar y ffordd yn rhoi sylw i fodiwlau Pass Plus yn ogystal ag ymdrin â sefyllfaoedd eraill wrth iddyn nhw godi.
Cewch chi bob amser eich trin fel gyrrwr sydd wedi ymgymhwyso’n llawn!
Pam y dylwn i wneud hyn?
Yn ogystal â lleihau eich risg ar y ffyrdd a’ch helpu i ennill profiad a sgiliau gwerthfawr, ar ôl cwblhau’r cwrs bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyhoeddi gyda Thystysgrif Pass Plus (gweler y nodyn). Bydd hynny’n fodd i chi hawlio’r manteision sydd i’w cael o dan y Cynllun Pass Plus.
Cost y cwrs cyfan, yw £20. Mae hynny’n ddisgownt aruthrol ar y gost arferol o £120 – £150 (oherwydd grant arbennig at ddiogelwch ar y ffyrdd gan Lywodraeth Cymru).
I ymuno â’r cwrs, rhaid i chi fod:
- Rhwng 17 a 25 oed
- Â thrwydded yrru lawn
- Yn byw yng Nghymru
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf hynny, cliciwch yma i weld pryd y bydd y cwrs nesaf yn rhedeg yn eich ardal chi. Cyn pen dim, byddwch chi’n gyrru yn fwy effro, yn fwy medrus ac yn fwy diogel!
Sylwch: Bydd y Thystysgrif Pass Plus yn cael ei gyhoeddi gan y DVSA.