Eich Ardal Leol

Nid yw’r rhan fwyaf o yrwyr newydd yn cael damweiniau ac maen nhw’n haeddu clod am yrru’n gyfrifol
Fodd bynnag, yn anffodus, mae 33 o yrwyr a theithwyr ifanc yn cael eu hanafu yng Nghymru bob wythnos. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella diogelwch ar y ffyrdd a gostwng nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Mae Fframwaith Diogelwch Ffyrdd Cymru yn galw am ostyngiad o 40% yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru erbyn 2020. Mae gyrwyr a theithwyr ifanc (16-24) yn grŵp risg uchel, ac mae yna nifer o gynlluniau ar gael ledled Cymru sydd wedi’u hanelu at gadw pobl ifanc yn ddiogel ar y ffyrdd.

Cenedlaethol

Mae awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yng Nghymru’n darparu cyflwyniadau sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc. Yn aml, caiff y cynlluniau eu darparu mewn ysgolion a cholegau, gyda’r nod o addysgu pob defnyddiwr ffordd ifanc o’r effaith y gall damwain ei chael ar unigolion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, cyflogwyr, cymuned yr ysgol / coleg, y gwasanaethau brys, gweithwyr yn y maes meddygol a’r gymuned ehangach. Mae rhai cynlluniau yn targedu addysg yn benodol at deithwyr ifanc, ac yn anelu i’w helpu nhw i wahaniaethu rhwng gyrwyr da a gyrwyr gwael ymysg eu cyfoedion, ac i wneud dewisiadau hyddysg o ran gyda phwy y dylent deithio. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cynlluniau hyn trwy ymweld â gwefan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Efallai y bydd y gwefannau eraill hyn yn ddefnyddiol hefyd: Pass Plus Cymru Mae’r cynllun Diogelwch Ffyrdd Cymru hwn wedi bod yn rhedeg yng Nghymru ers 2006 ac mae’n costio £20 yn unig, diolch i gymorth ariannol Llywodraeth Cymru: Pass Plus Cymru DeadlyMates Gwefan sy’n anelu at annog gyrru mwy diogel ymysg pobl ifanc a darbwyllo gyrwyr ifanc i arafu. Am fwy o wybodaeth, ewch i DeadlyMates.com THINK! Road Safety Y nod yw annog ymddygiad mwy diogel a gostwng nifer y bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu ar ein ffyrdd bob blwyddyn. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth ar ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd cenedlaethol a thaflenni, ffeithlenni a phosteri i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim: THINK! RoSPA Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) yn cynhyrchu ystod eang o gyngor a gwybodaeth ar bob maes o ddiogelwch ffyrdd ac atal damweiniau. Mae gwybodaeth berthnasol ar gael i yrwyr, reidwyr, cerddwyr, seiclwyr a marchogion ar RoSPA.com

Lleol

Crashed Car Cynllun o dan arweinyddiaeth y gwasanaeth tân sy’n anelu at annog pobl ifanc i fod yn yrwyr cyfrifol, nid yn unig er budd eu hunain, ond hefyd y rheiny sy’n teithio yn eu cerbydau a defnyddwyr ffordd eraill. Mae’r cynllun yn defnyddio cerbyd go iawn sydd wedi bod mewn damwain ffordd i arddangos yr hyn sy’n gallu digwydd. DnA Yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau cyffuriau ac alcohol ar ddiogelwch defnyddwyr ffordd eraill. Mega Drive Mae myfyrwyr yn ymweld â gorsafoedd gwaith rhyngweithiol i ddysgu gwybodaeth hanfodol am bynciau cysylltiedig â gyrru. Yr orsaf waith fwyaf poblogaidd yw’r un sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr yrru car o dan oruchwyliaeth hyfforddwr gyrru. Mae’r orsaf waith hon yn rhoi’r blas cynaf o yrru i rai myfyrwyr. Cystadleuaeth Amlgyfrwng Am nifer o flynyddoedd, mae Cystadleuaeth Amlgyfrwng Diogelwch Ffyrdd Cymru wedi herio ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i ddatblygu, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng sy’n cynnwys neges wrth yrru o dan ddylanwad alcohol / cyffuriau ar gyfer y Nadolig. I wylio enillwyr blaenorol y gystadleuaeth, ewch i sianel YouTube Diogelwch Ffyrdd Cymru. Mission Fatal 4law Mae ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Powys, sydd wedi’i dylunio i addysgu teithwyr a cherddwyr ifanc, yn ymdrech i ostwng nifer y damweiniau ffordd a dioddefwyr cysylltiedig. Ewch i www.facebook.com/missionfatal4law Drive iQ Mae pobl ifanc yn ardal Port Talbot yn cael eu hannog i gymryd rhan yn DriveIQ, ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o beryglon ffyrdd sy’n anelu i addysgu gyrwyr newydd a darpar yrwyr am yr angen i ymddwyn yn gyfrifol cyn dechrau gyrru. Mae mwy o wybodaeth ar gael fan hyn: DriveiQ.co.uk