Y Gyfraith

Bydd eich trwydded yn cael ei chanslo os byddwch yn cael chwe phwynt neu fwy o fewn dwy flynedd o basio eich prawf gyrru. Bydd rhaid i chi basio prawf theori a phrawf ymarferol eto er mwyn cael trwydded yrru lawn.

Gallech ladd neu anafu eich hun ac eraill yn ddifrifol wrth yrru o dan ddylanwad.

Gallech gael eich carcharu am 6 mis, cael eich gwahardd rhag gyrru am flwyddyn a chael dirwy ddiderfyn os cewch eich dedfrydu o yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Gall symiau bach o alcohol eich gwthio dros y terfyn felly, os ydych yn bwriadu gyrru, peidiwch ag yfed unrhyw alcohol. Mae’n anghyfreithlon gyrru os nad ydych yn ffit i wneud oherwydd eich bod wedi cymryd cyffuriau, hyd yn oed cyffuriau presgripsiwn. Os oes unrhyw amheuon gennych, gwiriwch gyda’ch meddyg neu’ch fferyllydd cyn gyrru.

Arafwch. Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o ladd rhywun wrth yrru 35mya o gymharu â gyrru 30mya.

Mae hysbysiad cosb benodedig yn £100 a 3 phwynt ar eich trwydded, ond os cewch chi eich erlyn yn y llys, gall y ddirwy godi i £1,000, neu £2,500 am drosedd ar y draffordd a hyd at 6 phwynt. Y terfyn cyflymder yw’r uchafswm – nid yw’n golygu ei bod hi’n ddiogel gyrru ar y cyflymder hwn ar bob adeg.

Gall cerbyd fod yn arf farwol pan gaiff ei yrru’n ddiofal.

Nid ydych yn gwneud argraff dda ar unrhyw un wrth ddangos eich hun wrth yrru eich car. Yn wir, mae pobl yn tueddu meddwl y gwrthwyneb. Rydych chi wedi gweithio’n galed i gael eich trwydded ond gall yr anrhydedd gael ei chipio oddi wrthoch chi mewn chwinciad os ydych yn gyrru mewn ffordd rthgymdeithasol. Hysbysiad cosb benodedig o £100 a 3 phwynt ar eich trwydded yw’r man cychwyn; gall achosi marwolaeth trwy yrru diofal arwain at hyd at 5 mlynedd yn y carchar, tra gall achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus arwain at hyd at 14 mlynedd yn y carchar.

Gwisgwch wregys, rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o farw os nad ydych yn gwneud.

A fyddech chi’n mynd ar reid colli cylla heb wisgo gwregys? Mae peidio â gwisgo gwregys yn gallu bod yn benderfyniad marwol, hyd yn oed ar y teithiau byrraf. Fel y gyrrwr, chi sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod pawb o dan 14 oed yn gwisgo gwregys. Fodd bynnag, os bydd un o’ch ffrindiau yn penderfynu peidio â gwisgo gwregys, mae hawl gennych wrthod gyrru’r car tan fod pawb wedi gwisgo gwregys – eich car chi, eich rheolau chi!

Y gosb am beidio â gwisgo gwregys yw dirwy o £100 yn y fan a’r lle, neu £500 os aiff yr achos i’r llys.

Diffoddwch eich ffôn cyn gyrru i ffwrdd.

Ydych chi eisiau osgoi tocyn am ddefnyddio’ch ffôn symudol wrth yrru? Peidiwch â’i defnyddio hi yn y lle cyntaf. Does dim ots os ydych chi wedi aros mewn traffig neu’n symud yn araf mewn rhes – mae gwneud yn dal i fod yn anghyfreithlon. Gallech chi gael eich erlyn hyd yn oed wrth ddefnyddio dyfais Bluetooth neu git llawrydd os ydyw’n effeithio ar y ffordd rydych chi’n gyrru. Byddai llawer gwell gan eich teulu
Y ddirwy yw £200 a 6 phwynt ar eich trwydded, neu hyd at 14 mlynedd yn y carchar os ydych yn achosi marwolaeth.

Ydych chi wedi pasio eich prawf gyrru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf? Byddwch yn colli eich trwydded fel mater o drefn petaech yn cael eich dal yn defnyddio’ch ffôn symudol wrth yrru. Dim ail gyfle. Yn ogystal, bydd rhaid i chi ail-sefyll eich profion theori ac ymarferol.