GWOBRAU

Caiff pob cyfranogwr Pass Plus Cymru sydd wedi cyflwyno ei holiadur ar ôl y cwrs yn ystod y 12 mis diwethaf gystadlu yn y raffl.

Gyrrwr ifanc yn ennill gwobr raffl​

20/5/22

Dewiswyd Tomos Parry ar hap allan o yrwyr ar draws Cymru a oedd wedi cymryd rhan yn ddiweddar yn y cwrs Pass Plus Cymru, i ennill gwobr chwarterol y cwrs.

“Rwyf yn falch fy mod wedi dewis cymryd rhan yn y cynllun Pass Plus oherwydd ei fod wedi cynyddu fy hyder o ran gyrru ar draffyrdd. Fyswn i ddim wedi cael profiad o wneud hyn fel arall gan fy mod yn byw mewn ardal wledig. Hefyd gan fy mod wedi cael cyngor gan yr hyfforddwr drwy gydol y cynllun, rwyf yn teimlo yn awr fy mod yn gyrru yn fwy diogel.

“Mi fyswn i yn argymell i unrhyw un wneud y cwrs gan ei fod yn cynnig profiad unigryw ac yn rhesymol iawn o ran cost. Drwy fy mod wedi cwblhau’r cwrs rwyf yn awr yn yrrwr gwell a hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o’r trefniadau.

“Roedd yn andros o syrpreis pan glywais fy mod wedi ennill y wobr! Gan fy mod yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn y brifysgol mae pob ceiniog yn helpu a bydd yr arian yn help mawr iawn efo costau byw.”

 

Enlli Angharad yn Ennill Gwobr Pass Plus Cymru

20/5/22

Dewiswyd Enlli Angharad Jones, o Gwynedd, ar hap allan o yrwyr ar draws Cymru a oedd wedi cymryd rhan yn ddiweddar yn y cwrs Pass Plus Cymru, i ennill gwobr chwarterol y cwrs.

Fy mhrofiad o’r cynllun ‘Pass Plus Cymru’:
Yn bersonol, mwynheais fy mhrofiad o gwblhau’r cynllun ‘Pass Plus Cymru’. Roedd yn hwylus ac yn ddidrafferth. Credaf fy mod yn yrrwr eithaf da ar y cyfan, ond credaf ar ôl pasio’r cynllun fy mod nawr yn llawer mwy ymwybodol o’r peryglon sydd ar y lon, ag yn fwy diogel o ran mynd a’r priffyrdd a thraffyrdd. Cwblheais fy nghynllun ar ddechrau mis Awst, 2021 ac rwy’n argymell i holl yrwyr newydd ar y lonydd gymryd rhan!

Fy mhrofiadau o wneud yr holiadur:
Pleser oedd derbyn gwobr gan ‘Pass Plus Cymru’, o ganlyniad i mi gwblhau holiadur oedd yn sôn am y profiadau y cefais yn y deuddeg mis diwethaf wedi i mi basio. Roedd yr holiadur yn canolbwyntio ar y cynllun a’r buddsoddiadau cefais wedi i mi i’w gwblhau. Yn ogystal, holir am unrhyw wrthdrawiadau neu hawliau yswiriant roeddwn wedi ei wneud wedi i mi basio. Roedd yn syml ac yn rhwydd i lenwi.

Fy marn ar y cynllun yn ei gyfanrwydd:
Rwy’n argymell i bawb wneud y cynllun ‘Pass Plus Cymru’. Mae nifer o agweddau cadarnhaol yn perthyn i’r cynllun, megis; eich gwneud yn yrrwr mwy hyderus, rhoi ffydd yn eraill yn eich dreifio, gwella eich ymwybyddiaeth o’r ffyrdd a’r peryglon y gellir eu hwynebu. Rwyf eisoes wedi argymell y cwrs i fy ffrindiau a theulu agos.

Beth fyddaf yn buddsoddi neu wario’r arian arnodd:
Bydd yr arian yn gymorth mawr i mi fel myfyrwraig mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Mae unrhyw gymorth yn ddefnyddiol iawn, ac rwy’n siŵr o wneud y mwyaf ohono. Hefyd, gyda phrisiau tanwydd ar gynnydd, bydd yr arian yn gymorth mawr.

 

Myfyriwr o’r Fro yn ennill raffl chwarterol Pass Plus Cymru

7/12/18

Dewiswyd Chloe Cotter, o Benarth, ar hap gan Ddiogelwch ar y Ffyrdd Cymru, fel enillydd y wobr chwarterol ddiweddaraf ar gyfer Pass Plus Cymru.Dewiswyd Chloe fel buddugwr Bro Morgannwg, i ennill siec am £250 ar ol iddi gwblhau a dychwelyd holiaduron gwerthuso.Fersiwn uwch o gwrs safonol Pass Plus yw Pass Plus Cymru, a chaiff ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

Mae’r cwrs gyrru byr wedi ei ddysgu gan arbenigwyr, a’i nod yw datblygu arferion da, cynyddu ymwybyddiaeth ac ehangu profiad. Mae ar gael i bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yng Nghymru am £20 yn unig, a thelir y gweddill gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant i awdurdodau lleol.

Cyflwynwyd ei siec i Chloe gan y Cynghorydd Geoff Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth, a dywedodd, Mae Pass Plus Cymru yn gynllun gwych i yrwyr ifanc, yn enwedig am ei fod yn eu helpu i adeiladu eu hyder tra’n gyrru.

“Da iawn Chloe am gwblhau’r cwrs ac mae’n dda gennyf gyflwyno’r siec hwn i ti.”

Dwedodd Chloe, “Pan welais e-bost yn dweud mod i wedi ennill £250, doeddwn i ddim yn ei gredu i ddechrau, ond dwi wrth fy modd o gael fy newis.

“Pasiais fy mhrawf gyrru ym mis Mai, a chyn i mi ddechrau cwrs Pass Plus Cymru, doeddwn i ddim yn mwynhau gyrru ar y draffordd o gwbl.

“Helpodd y cwrs fi i gynyddu fy mhrofiad gyrru ac mae wedi cynyddu fy hyder hefyd.”

 

Aaron yn derbyn siec o £250 gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd

22/3/18

Mynychodd Aaron gwrs gyrru Pass Plus Cymru ym mis Tachwedd 2017 ac fe’i dewiswyd ar hap gan Ddiogelwch Ffyrdd Cymru o yrwyr ledled Cymru a oedd wedi cwblhau a dychwelyd holiaduron gwerthuso.

Cwrs gyrru uwch a arweinir gan arbenigwyr yw Pass Plus Cymru a gynlluniwyd i bobl ifanc ehangu profiad a datblygu technegau gyrru megis gyrru yn y nos, ar y draffordd, trwy ffyrdd gwledig neu drefi prysur.

Dywedodd Aaron: “Penderfynais gymryd y cwrs i gael mwy o brofiad a gobeithio gostwng fy yswiriant car, ac rwy’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr.”

Cost mynychu cwrs Pass Plus Cymru yw £20, ac fe’u cyflwynir yng Ngwynedd gan Dîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Llongyfarchiadau i Aaron gan holl Dîm Diogelwch Ffyrdd Gwynedd.

 

Ben yn Ennill Gwobr Pass Plus Cymru

22/2/17
Llongyfarchwyd dyn ifanc a gymerodd rhan mewn cwrs Pass Plus Cymru a redir gan y Cyngor ar ôl ennill gwobr.

Dewiswyd Ben Read, o Landegla, ar hap allan o yrwyr ar draws Cymru a oedd wedi cymryd rhan yn ddiweddar yn y cwrs Pass Plus Cymru, i ennill gwobr chwarterol y cwrs.

Mae’r cwrs ar gael i yrwyr rhwng 17 a 25 oed sydd yn byw yng Nghymru, ac wedi’i greu i helpu gyrwyr ifanc fod yn fwy diogel ar y ffyrdd.

Cwrs gyrru byr, dan arweiniad arbenigwr ydyw wedi’i greu i bobl ifanc i ehangu eu profiad a datblygu eu technegau gyrru megis gyrru yn y nos, ar draffordd, ar hyd ffyrdd cefn gwlad neu mewn trefi prysur.
Mae’r cwrs Pass Plus Cymru hwn yn costio £20 ac yn cael ei ddarparu yn Wrecsam gan y tîm Diogelwch Ar Y Ffyrdd y Cyngor, a chaiff ei ariannu gan Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ben: “Penderfynais gymryd rhan yn y cwrs i gael mwy o brofiad – ac ar ôl ei wneud, rwy’n teimlo’n fwy diogel a mwy hyderus wrth yrru.

“Rwy’n hapus iawn fy mod wedi ennill y wobr hon.”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Gall gyrwyr newydd fod â diffyg sgiliau a phrofiad sydd ei angen i sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill ar y ffordd, ac mae’r cwrs hwn wedi anelu i’w dylanwadu i fod yn fwy hyderus a chyfrifol fel gyrwyr.

“Hoffwn longyfarch Ben ar ei lwyddiant ac rwy’n falch o weld bod y cwrs Pass Plus Cymru wedi bod o fudd iddo.”

Gyrrwr ifanc yn ennill gwobr raffl

22/7/16
Gyrrwr ifanc o Gwmbrân yw enillydd lwcus £250 gan Pass Plus Cymru ar ôl cymryd cwrs gyrru uwch i wella ei sgiliau. Fe wnaeth Lauren Dockree deunaw oed o Groesyceiliog basio ei phrawf gyrru yn 2015 a dilyn cwrs Pass Plus Cymru i ennill profiad ychwanegol.

Mae’r cwrs ar gael i yrwyr 17 oed – 25 oed, gyda’r bwriad o helpu gyrwyr ifanc i fod yn fwy diogel ar y ffyrdd.

Mae’n canolbwyntio ar dechnegau gyrru uwch fel gyrru yn y nos, ar y draffordd, drwy lonydd gwledig neu drefi prysur.

Cafodd Ms Dockree ei dewis ar hap o blith gyrwyr ledled Cymru i ennill raffl chwarterol Pass Plus Cymru. Meddai: “Penderfynais ddilyn y cwrs i gael mwy o brofiad a nawr fy mod wedi ei wneud rwy’n teimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus wrth yrru.”

Mae cwrs Pass Plus Cymru yn costio £20 yn unig a gall hefyd helpu gyrwyr i gael gostyngiad ar eu hyswiriant. Caiff ei gyflwyno yn Nhorfaen gan dîm diogelwch ffyrdd y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd John Cunningham, aelod gweithredol dros wasanaethau cymdogaeth,: “Mae cwrs Pass Plus yn ffordd ardderchog i yrwyr ifanc ddatblygu eu sgiliau, felly’n cyflwyno i rai o’r sefyllfaoedd mwyaf anodd y maent yn debygol o ddod ar eu traws ar y ffyrdd.

“Mae’r cyrsiau yn derbyn cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru felly nid oes cost enfawr ynghlwm a hoffwn annog pob gyrrwr ifanc i roi cynnig arni.”

Mae Jessica yn enillydd gyda Pass Plus Cymru

20/5/13
Cymerodd gyrrwr ifanc o Sir Benfro, Jessica Cull, ran yn y cynllun Pass Plus Cymru a llenwodd yr holiadur a gafodd ei roi’n awtomatig i mewn i’r raffl chwarterol Cymru gyfan.

Roedd Jessica wrth ei bodd yn cael ei dewis fel yr enillydd ac i dderbyn siec am £250.00 o Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd Sir Benfro, sef John Gobbi. Mae’n gobeithio rhoi’r arian tuag at ei chynilion. Dywedodd hi y byddai’n argymell Pass Plus Cymru i unrhyw yrrwr ifanc sydd newydd basio ei brawf.

Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi dysgu llawer am fod yn yrrwr diogel a sut i ymdopi gydag amgylcheddau heriol gyrru yn y ddinas ac ar y draffordd.

Ffawdelw £250 Conor am Lenwi ei Holiadur

20/5/13
Gyrrwr ifanc o Lynebwy yw enillydd cyntaf raffl chwarterol Pass Plus Cymru.
Cyflwynwyd siec am £250 i Conor Jones, sy’n fyfyriwr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent gan y Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd, Maria Barsi-Mills, ar ôl i’w ffurflen adborth gael ei rhoi i mewn i raffl am ddim.

Tynnwyd enw Conor o restr yr holl gyfranogwyr ledled Cymru a ddychwelodd eu ffurflen arfarnu wrth gwblhau Cwrs Pass Plus Cymru.

Mae pobl ifanc yn cael eu gorgynrychioli mewn ystadegau digwyddiadau ac felly anelir Pass PlusCymru at bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd newydd basio eu prawf yrru.
Bydd pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn cael awgrymiadau a syniadau am:
• Gychwyn gyrru ar y draffordd
• Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
• Teithio gyda’r nos
• Ymdopi gyda threfi a dinasoedd prysur
• Gyrru ar ffyrdd gwledig yng nghefn gwlad

Dywedodd Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd Blaenau Gwent, sef Maria Barsi-Mills:
“Gall gyrwyr newydd fod heb y sgiliau a’r profiad hanfodol sydd eu hangen i sicrhau eu diogelwch a diogelwch pobl eraill ar y ffyrdd. Nod Pass Plus Cymru yw eu dylanwadu er mwyn dod yn yrwyr gwell a mwy cyfrifol ac mae’r cwrs yn costio £20 yn unig.”

Katie yn Ennill Gwobr Pass Plus Cymru

13/9/11
Katie Sands o Merthyr Tudful yw enillydd diweddaraf gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Tynnwyd enw Katie o’r rhestr o bawb a oedd wedi dychwelyd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs.

Overjoyed with her £250 cheque which was just in time for a pending holiday trip, Katie said she felt the course had really improved her driving skills and she had enjoyed the whole process.
Katie Sands is pictured with Alyn Wayman Fire Service presenter for Pass Plus Cymru, Cllr Tony Rogers, Cabinet Member for Customer, Technical and environmental Services and Pauline Halliday Pass Plus Cymru Presenter.

Gyrru’n ddiogel yn talu ar ei ganfed i berson ifanc o Wynedd

27/7/10
Mae gwr ifanc o Wynedd yn dathlu gwobr ychwanegol wedi iddo gymryd rhan mewn ymgyrch i helpu gyrwyr ifanc i aros yn ddiogel wrth y llyw. Cwrs i wella gyrru ar gyfer pobl ifanc ydi ymgyrch Pass Plus Cymru. Y nod yw gwella medrau gyrru cyffredinol y gyrwyr a lleihau’r tebygolrwydd iddynt fod mewn damwain car.
Mae’r ymgyrch yn cael ei gefnogi gan Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd Gwynedd ac yn rhoi gwobr ariannol o £250 bob tri mis i un person ifanc sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch. Yr enillydd y tymor hwn yw Morys Williams, 18 oed, o Lanrug.

Mae Morys yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, Bangor. Meddai: “Roedd yn gyfle gwych i gael hyfforddiant ychwanegol a phroffesiynol ar ôl pasio fy mhrawf gyrru, a’i gael am £20 yn unig yn well fyth.”
Bydd pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn cael eu hyfforddi mewn:
– Gyrru ar y draffordd
– Technegau gyrru ac adnabod peryglon
– Gyrru wedi iddi dywyllu
– Gyrru yn hyderus mewn trefi a dinasoedd prysur
– Gyrru ar ffyrdd cul cefn gwlad

Meddai Colin Jones, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd, ac aelod o’r Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd:
“Mae’r cynllun Pass Plus Cymru yn ffordd dda iawn i bobl ifanc wella eu medrau gyrru ac i fod yn llai tebygol o gael eu hanafu, neu anafu eu cyd-deithwyr a defnyddwyr ffordd eraill, mewn damwain.

“Yn anffodus gyrwyr ifanc yw’r mwyaf tebygol o fod mewn damwain ffordd ac mae unrhyw beth allwn ei wneud i atal hyn yn newyddion da iawn.

“Bydd enw pawb sy’n mynychu’r cwrs yn mynd i’r het a bydd un enillydd lwcus yn derbyn £250. Llongyfarchiadau i Morys am ennill y gystadleuaeth yma.”

Gwobr i Yrrwr Ifanc o Went

23/3/09
Rebecca Smith, 22 oed, o Gwmbrân yw enillydd diweddaraf gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Tynnwyd enw Rebecca o’r rhestr o bawb a oedd wedi dychwelyd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei Hyfforddwr Gyrru Pass Plus Cymru oedd Kevin Cunningham.

Rob yn Ennill Gwobr Pass Plus Cymru

13/1/09

Rob Hughes, sy’n byw ger Llandrindod, yw’r cyntaf ym Mhowys i gael gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Tynnwyd enw Rob o’r rhestr o bawb, ar hyd a lled Cymru, a oedd wedi dychwelyd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs i Yrrwr Ifanc. Enillodd Rob £250 – rhodd gan GEM Motoring Assist.
Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Rob: “Doeddwn i ddim wedi gyrru ar draffordd o’r blaen a rhoddodd y cwrs i mi’r hyder i yrru ar draffyrdd ac mewn dinasoedd. Roedd y profiad i gyd o les mawr.”
Meddai Gareth Evans, Hyfforddwr Drive On a Chyflwynydd Pass Plus Cymru: “Rwy’n credu ei bod hi’n werth gwneud cwrs Pass Plus Cymru. Mae’n rhoi llawer o gyngor buddiol i’r gyrrwr newydd a llawer o brofiad o yrru ar y ffordd. Efallai y gall gyrwyr ifanc hefyd elwa o gael disgownt ar eu hyswiriant am y swm bach o £20.”

Mae’r cwrs yn cynnwys sesiwn theori a sesiwn ymarfer a gyflwynir gan Hyfforddwyr Gyrru sydd wedi’u Cymeradwyo. Ar ôl i yrwyr ifanc ei gwblhau, gall fod ganddynt hawl i gael gostyngiad yng nghost eu hyswiriant. Anelir y cynllun at y rhai 17-25 oed sydd â thrwydded yrru lawn.

Jessica’n Cael ei Gwobr

9/10/08
Jessica Wright, sy’n 22 mlwydd oed yw’r ail i dderbyn gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Cafodd enw Jessica ei dynnu oddi ar restr pob un o’r ymgeiswyr a ddychwelodd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei huwch hyfforddwr Pass Plus Cymru oedd Mr Ron Ingall o Ron Ingall School of Motoring a leolir yn yr Eglwys Wen.
Dywedodd Prif Weithredwr GEM Motoring Assist’s, David Williams ‘Rydym yn falch iawn o gael noddi gwobrau’r fenter Gymreig gyffrous hon. Rydw i’n sicr y bydd Pass Plus Cymru yn helpu i wneud gyrwyr Cymreig yfory yn llawer mwy diogel, ymwybodol, ac ystyriol.

Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Jessica, “Mi fwynheais yr hyfforddiant ychwanegol a roddodd Pass Plus Cymru i mi, ac fel gyrrwr newydd mi gefais lawer o gyngor a dysgais lawer o bethau defnyddiol. Rydw i’n argymell y cwrs i bawb sydd newydd basio’u prawf.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae Pass Plus Cymru yn fenter dda i helpu gyrwyr ifanc i ddysgu mwy o sgiliau gyrru a datblygu i fod yn yrwyr mwy diogel.”

Datblygwyd Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr amhrofiadol rhwng 17 a 25 i gynnig mwy na’r cynllun Pass Plus sylfaenol. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Wrecsam yn gallu cynnig y cwrs hyfforddi i yrwyr newydd. Cyfanswm cost y cwrs yw £20 yn unig, gostyngiad sylweddol ar y gost arferol sydd rhwng £120 a £150. Cynhelir y cyrsiau hyfforddi ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam drwy’r flwyddyn.

Joe Bacchetta o’r Porth yn Rhondda Cynon Taf, a myfyriwr newyddiaduraeth 19 oed ym Mhrifysgol Morgannwg, yw’r cyntaf i gael gwobr chwarterol Pass Plus Cymru.

Mai 2008
Tynnwyd enw Joe o blith rhestr o bawb a oedd wedi dychwelyd ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei Uwch-Hyfforddwr Gyrru ar gyfer Pass Plus Cymru oedd Simon Hughes o SMS, Aberdâr. Meddai Prif Swyddog Gweithredol GEM Motoring Assist, David Williams, “Rydyn ni wrth ein bodd yn noddi gwobrau’r fenter gyffrous hon yng Nghymru. Rwy’n siwr y bydd Pass Plus Cymru yn helpu i sicrhau y bydd gyrwyr Cymru yfory yn yrwyr mwy ymwybodol, mwy ystyriol a mwy diogel.”