Ymarfer Preifat

Gall fod yn ddefnyddiol ymarfer yn breifat y eich cerbyd eich hunan ar ôl ichi gael eich ychydig o wersi proffesiynol. Ond holwch eich hyfforddwr gyrru yn gyntaf i sicrhau eich bod yn barod. Os oes modd, cofiwch gynnwys y person fydd yn goruchwylio’ch sesiynau ymarfer preifat yn y trafod.

  • Cyn ichi geisio gyrru, gwnewch yn siŵr fod gennych yswiriant ar y cerbyd y byddwch yn ei yrru, p’un a yw’r cerbyd yn perthyn i chi neu beidio, a bod y cerbyd yn ddiogel i’w ddefnyddio ar y ffordd. Hyd yn oed os oes gennych chi yswiriant ar gerbyd arall, peidiwch â rhagdybio’n awtomatig fod yr yswiriant hwnnw’n caniatáu ichi yrru cerbydau eraill – fydd hynny ddim yn wir yn aml. Gall y rhai sy’n dysgu gyrru gael eu hychwanegu at bolisi sydd eisoes yn bodoli fel arfer. Neu, gallwch brynu yswiriant arbennig i yrrwr sy’n dysgu, sy’n gallu bod yn fwy cost-effeithiol.
  • Rhaid ichi gael eich goruchwylio gan rywun dros 21 oed sydd â thrwydded yrru lawn ers dros dair blynedd ac sydd heb ei anghymhwyso ar hyn o bryd.
  • Rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn ffit i yrru, hyd yn oed os byddwch chithau’n gyrru drwy’r amser. Felly, ni ddylai’r naill na’r llall ohonoch fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, na defnyddio ffôn symudol yn ystod y siwrnai, er enghraifft.

Y Gyrrwr sy’n Goruchwylio’r Dysgwr

Cyn ichi fynd â dysgwr allan i ymarfer gyrru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r technegau a’r rheolau gyrru diweddaraf. Mae eich profiad ar y ffordd yn bwysig iawn, ond efallai y bydd ambell beth wedi newid ers pan fuoch chi’n dysgu sut i yrru neu efallai eich bod wedi codi arferion gyrru gwael dros amser. Ceisiwch osod esiampl dda wrth yrru bob amser – os ydych chi’n disgwyl i’r dysgwr gadw at y terfyn cyflymder a bod yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr eraill y ffordd, fe ddylech chithau wneud yr un fath!

Mae’n bwysig eich bod yn osgoi gwrth-ddweud yr hyn y mae’r hyfforddwr proffesiynol yn ei ddysgu i’r dysgwr, felly mae trafod yn rheolaidd gyda’r Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd (ADI) yn fuddiol iawn. Fe allech chi eistedd i mewn ar un neu fwy o wersi hefyd i arsylwi ar yr arferion cyfredol.

Mae’n debyg y bydd gan y dysgwr ryw syniad am rannau o’i waith gyrru, ond mae angen iddo wella. Anogwch y dysgwr i ofyn i’r hyfforddwr ar ddiwedd pob gwers beth y dylai ymarfer cyn y wers nesaf.

Mae’n bosibl y byddwch chi hyd yn oed am gael ambell wers loywi eich hunan, gydag ADI, i baratoi neu efallai y gallech ystyried ymuno â grŵp lleol i yrwyr uwch fel Gyrwyr a Reidwyr Uwch RoSPA neu IAMRoadSmart.

Cofiwch:  Gwnewch yn siŵr eich bod chi’ch dau yn gyfarwydd ag argraffiad diweddaraf Rheolau’r Ffordd Fawr – fe allan nhw fod wedi newid ers y tro diwethaf i chi eu darllen. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr ar gael i’w prynu mewn siopau llyfrau neu yn rhad ac am ddim ar-lein yma.


Ar y Ffordd

Ceisiwch gynllunio’ch llwybr ymlaen llaw bob amser cyn ymadael – mae angen i’r ddau ohonoch wybod bod y ffyrdd y byddwch yn gyrru arnyn nhw’n addas i chi, yn arbennig am nad oes rheolaeth ddeuol ar y cerbyd.  Wrth ichi ennill profiad, fe allech benderfynu gyrru liw nos neu ar ffyrdd mwy prysur, ond daliwch ati i drafod eich cynnydd gyda’ch hyfforddwr gyrru – nhw yw’r arbenigwyr. Ffordd wych i gynyddu’ch amser ymarfer hefyd yw gyrru ar siwrneiau rheolaidd, fel mynd i’r siopau neu i ymweld â’r teulu. Gall hyn deimlo fel llai o wers a bod yn llawer mwy realistig.

Bydd mynd ati’n bwyllog yn golygu bod y broses yn llawer haws i’r ddau ohonoch. Neilltuwch amser penodedig at ymarfer yn breifat fel na fydd y naill na’r llall ohonoch yn teimlo brys neu bwysau. Pwyllwch wrth sgwrsio ac wrth roi cyfarwyddiadau, a pheidiwch â goryrru.  Cymerwch saib i drafod yr hyn sydd wedi cael ei ymarfer ac i adolygu’ch sesiwn a’r cynnydd yn gyffredinol.

I gael cyngor RoSPA ar sut i reoli sesiwn ymarfer gyrru, cliciwch yma.

Cofiwch: Chewch chi ddim ymarfer yn breifat ar y draffordd. Dim ond mewn gwersi proffesiynol gyda Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd y mae hyn yn cael ei ganiatáu.


Adborth

Mae siarad am y gyrru’n rhan bwysig o’r broses ddysgu. Trafodwch beth sydd wedi digwydd a sut y cafodd sefyllfaoedd eu trin a’u trafod ar y ffordd.

Myfyriwch ar elfennau cadarnhaol y sesiwn, ac os oes rhywbeth sydd heb fod mor dda siaradwch am yr hyn a allai gael ei wneud y tro nesaf er mwyn ymdrin yn fwy effeithiol â’r sefyllfa.

Does neb yn berffaith ar unwaith. Mae gwallau a beiau yn rhan o’r broses ddysgu a bydd trafod sut i wella’r tro nesaf yn helpu.

I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu gyrru, ewch i’r gwefannau a ganlyn: