Dysgu Gyrru


Sicrhau’ch Trwydded

Mae llawer o reolau a rheoliadau i gadw atyn nhw, felly weithiau gall pethau ymddangos yn gymhleth ac mae’n hawdd anghofio’r hyn y mae angen ei wneud er mwyn sicrhau na fyddwch chi’n torri’r gyfraith wrth ddefnyddio’r ffordd.

Mae’n rhaid ichi wneud sawl peth cyn ichi yrru car neu reidio beic modur ar y ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau trwydded yrru, cofrestru’ch cerbyd a gofalu bod gan y cerbyd yswiriant, treth ac MOT dilys. Os byddwch yn methu gwneud un neu ragor o’r pethau hyn, fe allech chi wynebu dirwy neu bwyntiau cosb ar eich trwydded (hyd yn oed ar drwydded dros dro). Fe allai’ch cerbyd gael ei gipio neu ei chwalu hefyd.

Hyd yn oed os oedd gennych chi drwydded yrru lawn o’r blaen mewn gwlad arall, os trwydded dros dro yn unig sydd gennych yn y Deyrnas Unedig mae’n rhaid ichi basio prawf theori a phrawf ymarferol yma cyn cael gyrru ar eich pen eich hun.

Er mwyn dysgu gyrru:

  • Rhaid ichi fod yn 17 oed o leiaf. (16 os ydych yn cael y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uwch)
  • Rhaid bod gennych drwydded dros dro ar gyfer Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon (Gallwch wneud cais yma)
  • Rhaid ichi allu darllen plât cofrestru cerbyd o 20 metr i ffwrdd (gan wisgo’ch sbectol neu’ch lensys cyffwrdd os oes arnoch angen y rhain, ac mae’n rhaid ichi eu gwisgo bob amser wrth yrru)
  • Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw gerbyd y byddwch yn ei yrru yn addas i fod ar y ffordd a bod ganddo’r dreth a’r yswiriant priodol i chi ei yrru
  • Rhaid ichi ddangos platiau D ar flaen a chefn eich cerbyd, lle mae modd iddyn nhw gael eu gweld yn glir (cewch ddangos platiau D neu L yng Nghymru)
  • Rhaid ichi fod yng nghwmni gyrrwr sydd â chymhwyster llawn, sydd dros 21 oed ac sydd â thrwydded lawn i yrru car ers tair blynedd o leiaf. Yn ddelfrydol, rydym yn argymell y dylech gael gwersi gyda Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd (ADI) ac ymarfer gydag aelod o’r teulu neu ffrind rhwng y gwersi.

Dechrau Dysgu

Y ffordd ddelfrydol i ddysgu gyrru yw cael gwersi proffesiynol gyda Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd (ADI) ac ymarfer yn breifat gydag aelod o’r teulu neu ffrind rhwng y gwersi. Bydd yr amser ychwanegol wrth y llyw yn fodd ichi ymarfer ac atgyfnerthu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu gan eich ADI.

Er gwaethaf y gost, ddylech chi byth anelu at basio’r prawf gyrru mor gyflym ag y gallwch. Yn hytrach, dylech ddefnyddio unrhyw amser ymarfer ychwanegol i gael cymaint â phosibl o brofiad, mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau. Gallai hyn arbed arian ichi yn y dyfodol mewn gwirionedd, gan fod gyrwyr mwy profiadol yn llawer llai tebygol o fod mewn gwrthdrawiad.

Cofiwch: Cyn trefnu’ch prawf ymarferol rhaid ichi baratoi ar gyfer y prawf theori a phasio hwnnw. Gall eich hyfforddwr gyrru helpu yn hyn o beth a gallwch gael rhagor o wybodaeth hefyd drwy glicio yma.


Dysgu ar y Draffordd

Ers 2018, mae gan y rhai sy’n dysgu gyrru ganiatâd i gael gwersi gyrru ar draffyrdd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Er mwyn gyrru ar draffyrdd, rhaid i’r dysgwyr fod yng nghwmni hyfforddwr gyrru proffesiynol (ADI) mewn car sydd â rheolaeth ddeuol ac sy’n dangos platiau D neu flwch ysgol foduro ar y to.

Nid yw gwersi ar y draffordd yn orfodol, a mater i’r hyfforddwr yw penderfynu pryd mae’r dysgwr yn ddigon cymwys. Nid yw gyrru ar y draffordd yn rhan o’r prawf gyrru ar hyn o bryd.

Cofiwch: Chewch chi ddim ymarfer yn breifat ar y draffordd. Dim ond gyda Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd y mae hyn yn cael ei ganiatáu.