Eich Car Cyntaf


Cael Eich Trwydded

Gyda chymaint o reolau a rheoliadau i’w dilyn, mae pethau’n gallu ymddangos yn gymhleth ar adegau ac mae’n hawdd esgeuluso’r pethau sydd angen i chi eu gwneud er mwyn sicrhau nad ydych yn torri’r gyfraith wrth ddefnyddio’r ffordd.

Rhaid i chi wneud nifer o bethau cyn eich bod yn gyrru car neu reidio beic modur ar y ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys cael trwydded yrru, cofrestru eich cerbyd a gwneud yn siŵr fod gennych yswiriant, treth ac MOT dilys. Os nad ydych yn gwneud yr holl bethau hyn, mae’n bosibl y byddwch yn cael dirwy, pwyntiau cosb ar eich trwydded (hyd yn oed trwydded dros dro) ac mae yna bosibilrwydd y bydd eich cerbyd yn cael ei feddiannu a’i ddinistrio.

Hyd yn oed os ydych wedi meddu ar drwydded yrru lawn mewn gwlad arall yn y gorffennol, neu os oes gennych drwydded yrru dros dro yn y DU, rhaid i chi basio prawf theori a phrawf ymarferol cyn y gallwch yrru ar eich pen eich hun.

  • Rhaid eich bod yn 17 oed o leiaf (16 oed os ydych yn derbyn lwfans byw i’r anabl ar raddfa uwch).
  • Rhaid bod gennych drwydded yrru dros dro ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. (gallwch ymgeisio yma)
  • Rhaid eich bod yn gallu darllen rhif cofrestredig car o 20 metr i ffwrdd (gan wisgo sbectolau neu lensys cyffwrdd os oes eu hangen arnoch, a rhaid i chi eu gwisgo nhw bob tro y byddwch yn gyrru).
  • Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw gerbyd rydych yn ei yrru yn addas ar gyfer y ffordd ac wedi’i drethu a’i yswirio’n gywir ar eich cyfer.
  • Rhaid i chi arddangos platiau L ar flaen ac ar gefn eich cerbyd (gallwch arddangos platiau L neu D yng Nghymru).
  • Rhaid bod gyrrwr cymwys dros 21 oed sydd wedi dal trwydded yrru lawn am gyfnod o dair blynedd fynd yn gwmni i chi. Yn ddelfrydol, rydym yn argymell eich bod yn cael gwersi gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy ac yn ymarfer gydag aelod o’ch teulu neu ffrind rhwng gwersi.

I gael mwy o wybodaeth, gallwch ymweld â’r gwefannau canlynol:

I weld fersiwn ddiweddaraf Rheolau’r Ffordd Fawr, cliciwch yma.

Y DVLA a’r DVSA
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cofrestru a thrwyddedu pob gyrrwr ym Mhrydain Fawr, yn ogystal â chasglu a gorfodi treth y ffordd. Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn gweithredu profion gyrru, yn cymeradwyo darpar hyfforddwyr gyrru a phrofwyr MOT, yn gweithredu profion i sicrhau bod lorïau a bysiau yn ddiogel i’w gyrru, yn gweithredu gwiriadau ochr y ffordd ar yrwyr a cherbydau, ac yn monitro ad-alwadau cerbydau.

Prynu Car

Cyn i chi ruthro allan i brynu car, rhaid i chi ystyried y canlynol yn gyntaf. Os ydych yn bwriadu prynu car ail-law, gwiriwch y cerbyd cyn ei brynu er mwyn sicrhau mai’r gwerthwr yw’r perchennog cyfreithiol, nad oes unrhyw daliadau dros ben ar y cerbyd a’i fod mewn cyflwr diogel ac addas ar gyfer y ffordd. Gallwch weld pa wybodaeth sydd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar ei DVLA gwefan. Bydd angen math a rhif cofrestredig y cerbyd arnoch i wneud hyn.

Mae’n bosibl y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol hefyd:

  • Gwiriwch sgôr diogelwch eich car, neu’r un rydych yn bwriadu ei brynu ar EuroNCAP.com. Cliciwch ar y ddolen briodol i gael disgrifiad manwl o sut berfformiodd pob car unigol a sut maent yn cymharu gyda modelau eraill yn eu dosbarth
  • Mae gan yr AA awgrymiadau ar brynu car ail-law: TheAA.com
  • Cyngor ac awgrymiadau ar gyfer prynu, defnyddio a gwerthu car: WhatCar.com
  • Mae First Car yn cynnig cyngor yn arbennig ar gyfer gyrwyr newydd.

Cael Yswiriant

Rhaid bod gennych yswiriant trydydd parti o leiaf sy’n diogelu eich defnydd chi o’r cerbyd, os mai chi yw’r perchennog ai peidio. Golyga hyn fod gennych yswiriant os byddwch mewn damwain sy’n achosi difrod neu anaf i unrhyw berson, cerbyd, anifail neu eiddo arall. Ni fydd yn talu unrhyw gostau eraill, er enghraifft adnewyddu eich cerbyd. Er mwyn yswirio eich cerbyd hefyd, bydd angen yswiriant cynhwysfawr arnoch.

Byddwch yn yrrwr mwy diogel a mynnwch ostyngiadau posibl ar yswiriant drwy gwblhau Pass Plus Cymru.

Beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud o ran yswiriant

GWNEWCH Y CANLYNOL

  • Gwiriwch a chyfunwch yr HOLL wefannau cymharu prisiau
  • Mynnwch ddyfynbrisiau gan gwmnïau, nid gan safleoedd cymharu
  • Ceisiwch ychwanegu ail yrrwr cyfrifol i’ch polisi fel gyrrwr a enwir
  • Ystyriwch bolisi sy’n defnyddio technoleg i fonitro eich gyrru e.e. blwch du, apiau ac ati
  • Hysbyswch eich yswiriwr am newidiadau ac amgylchiadau arbennig
  • Rhowch gynnig ar bolisïau aml-gerbyd os ydych yn byw gyda’ch rhieni

PEIDIWCH Â GWNEUD Y CANLYNOL

  • Cymryd bod yswiriant trydydd parti yn rhatach nag yswiriant cynhwysfawr
  • Rhoi rhywun arall fel y gyrrwr cyntaf os mai eich car chi yw ef – mae’n ofynnol mai chi yw deiliad y polisi
  • Addasu eich car, oherwydd gall addasiadau godi premiymau yswiriant
  • Cael eich temtio i ddweud celwydd
  • Anghofio bod math y car (a maint yr injan) yn cael effaith ar gost yr yswiriant

I gael rhagor o wybodaeth am yswiriant i yrwyr ifanc, rhowch gynnig ar y dolenni hyn:

Defnyddio eich Car

Hyd yn oed os oes gan eich car dystysgrif MOT cyfredol, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon i’w ddefnyddio ar y ffordd. Mae hynny’n cynnwys gwirio eich teiars, goleuadau a lefelau hylif yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, mae’n fanteisiol gwasanaethu eich car yn rheolaidd, lle gall olew’r injan gael ei newid ac unrhyw gydrannau treuliedig eu hailosod yn ôl yr angen. Mae gan bob gwneuthurwr ceir ofynion gwahanol, felly mae’n werth siarad gyda gwerthwr ceir neu fecanig lleol.

Mae RoSPA (Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau) wedi cynhyrchu canllaw fideo ddefnyddiol ar gynnal a chadw ceir sylfaenol. Gallwch ei gwylio hi yma.

Efallai bydd y gwefannau eraill hyn yn ddefnyddiol hefyd:

  • PetrolPrices.com – i ddod o hyd i’r prisiau petrol rhataf yn eich ardal a chyngor ar gael mwy o filltiroedd i bob litr o betrol.
  • Traffig Cymru – adroddiadau traffig byw.
  • Traffic-Update.co.uk – cynllunio eich taith, adroddiadau traffig byw a newyddion diogelwch ffyrdd.
  • TheAA – y gost o gynnal car petrol neu diesel gan yr AA
  • GoSafe – gwybodaeth gysylltiedig â chamerâu diogelwch, gan gynnwys ffeithiau, lleoliadau a chosbau.
  • TyreSafe – gwybodaeth ar gynnal teiars a pheryglon teiars diffygiol ac anghyfreithlon.