Gwersi Proffesiynol
Rydyn ni bob amser yn argymell cymryd gwersi proffesiynol gyda Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd (ADI) ochr yn ochr ag unrhyw ymarfer preifat y byddwch yn ei wneud.
Dylai’r gwersi gyda’ch ADI fod yn fynych a chael eu rhannu dros nifer o wythnosau a misoedd, yn hytrach na’u crynhoi mewn cwrs dwys. Ar y cyfan, mae dysgwyr sy’n ennill llawer o brofiad mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd ac amgylchiadau gwahanol, cyn sefyll eu prawf ymarferol, yn perfformio’n well ar y prawf ac yn mynd ymlaen i fod yn yrwyr mwy diogel.
Bydd nifer y gwersi sy’n angenrheidiol yn amrywio, ond mae o leiaf 50 awr o hyfforddiant proffesiynol yn ganllaw da.
Yn ystod eich gwersi gydag ADI, efallai y cewch gyfle i yrru ar y draffordd. Yn y sesiynau hyn byddwch yn dysgu sut i ymuno â’r draffordd ac ymadael â hi, goddiweddyd a defnyddio lonydd yn gywir, ymarfer gyrru ar fwy o gyflymder, deall arwyddion traffig y draffordd a gwella’ch hyder wrth yrru ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder uwch. Nid yw gwersi ar y draffordd yn orfodol ac nid yw gyrru ar y draffordd yn rhan o’r prawf gyrru ymarferol ar hyn o bryd.
Cofiwch: Chaiff rhieni neu yrwyr eraill sy’n goruchwylio dysgwyr ddim mynd â dysgwyr ar draffordd wrth ymarfer yn breifat. Dim ond mewn gwersi proffesiynol gyda Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd y gall hyn gael ei wneud.
Beth yw ADI?
Hyfforddwr Gyrru a Gymeradwywyd yw ADI. Dim ond ADIs, neu ADIs dan hyfforddiant, sy’n cael codi tâl am wersi gyrru. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un arall godi arian am ddysgu rhywun i yrru.
Rhaid iddyn nhw gyrraedd safonau uchel penodol o ran hyfforddi, sef safonau sy’n cael eu gosod a’u monitro gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).
Bydd Hyfforddwyr Gyrru a Gymeradwywyd yn dangos tystysgrif ADI werdd ar ffenestr flaen y cerbyd yn ystod gwersi. Bydd gan rai dystysgrif binc sy’n dangos eu bod yn hyfforddwr dan hyfforddiant, ac yn ennill profiad o ddysgu cyn pasio’r arholiad i hyfforddwyr. Pan fyddwch yn archebu gwersi gyrru, peidiwch â bod ofn gofyn a oes gan eich hyfforddwr gymwysterau llawn ADI.
Dewis ADI
Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn gwirio ADIs o leiaf unwaith bob pedair blynedd i asesu eu gallu i helpu eu disgyblion i ddod yn yrwyr diogel. Mae ADIs yn cael eu marcio mewn tri phrif faes:
- Cynllunio gwersi
- Rheoli risg
- Sgiliau addysgu a dysgu
Mae ADIs sydd wedi ennill gradd A wedi cyrraedd safon hyfforddi uchel drwyddi draw.
Mae defnyddio cyfeiriadur lleol neu’r chwiliad ar-lein hwn yn ffordd dda i ddod o hyd i ADIs yn agos i chi. Mae’n well gan lawer o bobl gael argymhellion ar lafar, felly holwch bobl ac ystyried yr opsiynau. Rydym yn argymell y dylech chwilio am ADIs sydd wedi ymrwymo i gynllun datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) gwirfoddol y DVSA a Chod Ymarfer yr ADIs.
Cymerwch gar yr ADI i ystyriaeth hefyd; efallai y bydd yn well gennych un sydd o faint a phŵer tebyg i’r car rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio i ymarfer yn breifat ac yn sicr fe ddylai fod â’r un math o gerau – i’w gweithio â llaw neu’n awtomatig.
Bydd eich ADI yn dweud wrthych pan fyddwch yn barod i sefyll y prawf ymarferol. Mae rhagor o wybodaeth am y prawf ymarferol ar gael yma.
Cofiwch: Os bydd dysgwr yn pasio’i brawf gyrru mewn car awtomatig, dim ond i yrru car awtomatig y caiff ei drwyddedu. I ennill trwydded i yrru car sydd â geriau llaw, byddai’n rhaid iddo sefyll y prawf ymarferol eto mewn car sydd â geriau llaw.