Eich Ardal Leol
Nid yw’r rhan fwyaf o yrwyr newydd yn cael damweiniau ac maen nhw’n haeddu clod am yrru’n gyfrifol
Fodd bynnag, yn anffodus, mae 33 o yrwyr a theithwyr ifanc yn cael eu hanafu yng Nghymru bob wythnos. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella diogelwch ar y ffyrdd a gostwng nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Mae
Fframwaith Diogelwch Ffyrdd Cymru yn galw am ostyngiad o 40% yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru erbyn 2020.
Mae gyrwyr a theithwyr ifanc (16-24) yn grŵp risg uchel, ac mae yna nifer o gynlluniau ar gael ledled Cymru sydd wedi’u hanelu at gadw pobl ifanc yn ddiogel ar y ffyrdd.
Cenedlaethol
Mae awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yng Nghymru’n darparu cyflwyniadau sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc. Yn aml, caiff y cynlluniau eu darparu mewn ysgolion a cholegau, gyda’r nod o addysgu pob defnyddiwr ffordd ifanc o’r effaith y gall damwain ei chael ar unigolion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, cyflogwyr, cymuned yr ysgol / coleg, y gwasanaethau brys, gweithwyr yn y maes meddygol a’r gymuned ehangach.
Mae rhai cynlluniau yn targedu addysg yn benodol at deithwyr ifanc, ac yn anelu i’w helpu nhw i wahaniaethu rhwng gyrwyr da a gyrwyr gwael ymysg eu cyfoedion, ac i wneud dewisiadau hyddysg o ran gyda phwy y dylent deithio. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cynlluniau hyn trwy ymweld â gwefan
Diogelwch Ffyrdd Cymru.
Efallai y bydd y gwefannau eraill hyn yn ddefnyddiol hefyd:
Pass Plus Cymru
Mae’r cynllun Diogelwch Ffyrdd Cymru hwn wedi bod yn rhedeg yng Nghymru ers 2006 ac mae’n costio £20 yn unig, diolch i gymorth ariannol Llywodraeth Cymru:
Pass Plus Cymru
DeadlyMates
Gwefan sy’n anelu at annog gyrru mwy diogel ymysg pobl ifanc a darbwyllo gyrwyr ifanc i arafu. Am fwy o wybodaeth, ewch i
DeadlyMates.com
THINK! Road Safety
Y nod yw annog ymddygiad mwy diogel a gostwng nifer y bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu ar ein ffyrdd bob blwyddyn. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth ar ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd cenedlaethol a thaflenni, ffeithlenni a phosteri i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim:
THINK!
RoSPA
Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) yn cynhyrchu ystod eang o gyngor a gwybodaeth ar bob maes o ddiogelwch ffyrdd ac atal damweiniau. Mae gwybodaeth berthnasol ar gael i yrwyr, reidwyr, cerddwyr, seiclwyr a marchogion ar
RoSPA.com
Lleol
Crashed Car
Cynllun o dan arweinyddiaeth y gwasanaeth tân sy’n anelu at annog pobl ifanc i fod yn yrwyr cyfrifol, nid yn unig er budd eu hunain, ond hefyd y rheiny sy’n teithio yn eu cerbydau a defnyddwyr ffordd eraill. Mae’r cynllun yn defnyddio cerbyd go iawn sydd wedi bod mewn damwain ffordd i arddangos yr hyn sy’n gallu digwydd.
DnA
Yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau cyffuriau ac alcohol ar ddiogelwch defnyddwyr ffordd eraill.
Mega Drive
Mae myfyrwyr yn ymweld â gorsafoedd gwaith rhyngweithiol i ddysgu gwybodaeth hanfodol am bynciau cysylltiedig â gyrru. Yr orsaf waith fwyaf poblogaidd yw’r un sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr yrru car o dan oruchwyliaeth hyfforddwr gyrru. Mae’r orsaf waith hon yn rhoi’r blas cynaf o yrru i rai myfyrwyr.
Cystadleuaeth Amlgyfrwng
Am nifer o flynyddoedd, mae Cystadleuaeth Amlgyfrwng Diogelwch Ffyrdd Cymru wedi herio ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i ddatblygu, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng sy’n cynnwys neges wrth yrru o dan ddylanwad alcohol / cyffuriau ar gyfer y Nadolig. I wylio enillwyr blaenorol y gystadleuaeth, ewch i sianel
YouTube Diogelwch Ffyrdd Cymru.
Mission Fatal 4law
Mae ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Powys, sydd wedi’i dylunio i addysgu teithwyr a cherddwyr ifanc, yn ymdrech i ostwng nifer y damweiniau ffordd a dioddefwyr cysylltiedig. Ewch i
www.facebook.com/missionfatal4law
Drive iQ
Mae pobl ifanc yn ardal Port Talbot yn cael eu hannog i gymryd rhan yn DriveIQ, ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o beryglon ffyrdd sy’n anelu i addysgu gyrwyr newydd a darpar yrwyr am yr angen i ymddwyn yn gyfrifol cyn dechrau gyrru. Mae mwy o wybodaeth ar gael fan hyn:
DriveiQ.co.uk