Prynu Car
Cyn i chi ruthro allan i brynu car, rhaid i chi ystyried y canlynol yn gyntaf. Os ydych yn bwriadu prynu car ail-law, gwiriwch y cerbyd cyn ei brynu er mwyn sicrhau mai’r gwerthwr yw’r perchennog cyfreithiol, nad oes unrhyw daliadau dros ben ar y cerbyd a’i fod mewn cyflwr diogel ac addas ar gyfer y ffordd. Gallwch weld pa wybodaeth sydd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar ei
DVLA gwefan. Bydd angen math a rhif cofrestredig y cerbyd arnoch i wneud hyn.
Mae’n bosibl y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol hefyd:
- Gwiriwch sgôr diogelwch eich car, neu’r un rydych yn bwriadu ei brynu ar EuroNCAP.com. Cliciwch ar y ddolen briodol i gael disgrifiad manwl o sut berfformiodd pob car unigol a sut maent yn cymharu gyda modelau eraill yn eu dosbarth
- Mae gan yr AA awgrymiadau ar brynu car ail-law: TheAA.com
- Cyngor ac awgrymiadau ar gyfer prynu, defnyddio a gwerthu car: WhatCar.com
- Mae First Car yn cynnig cyngor yn arbennig ar gyfer gyrwyr newydd.
Cael Yswiriant
Rhaid bod gennych
yswiriant trydydd parti o leiaf sy’n diogelu eich defnydd chi o’r cerbyd, os mai chi yw’r perchennog ai peidio. Golyga hyn fod gennych yswiriant os byddwch mewn damwain sy’n achosi difrod neu anaf i unrhyw berson, cerbyd, anifail neu eiddo arall. Ni fydd yn talu unrhyw gostau eraill, er enghraifft adnewyddu eich cerbyd. Er mwyn yswirio eich cerbyd hefyd, bydd angen yswiriant cynhwysfawr arnoch.
Byddwch yn yrrwr mwy diogel a mynnwch ostyngiadau posibl ar yswiriant drwy gwblhau
Pass Plus Cymru.
Beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud o ran yswiriant
GWNEWCH Y CANLYNOL
- Gwiriwch a chyfunwch yr HOLL wefannau cymharu prisiau
- Mynnwch ddyfynbrisiau gan gwmnïau, nid gan safleoedd cymharu
- Ceisiwch ychwanegu ail yrrwr cyfrifol i’ch polisi fel gyrrwr a enwir
- Ystyriwch bolisi sy’n defnyddio technoleg i fonitro eich gyrru e.e. blwch du, apiau ac ati
- Hysbyswch eich yswiriwr am newidiadau ac amgylchiadau arbennig
- Rhowch gynnig ar bolisïau aml-gerbyd os ydych yn byw gyda’ch rhieni
PEIDIWCH Â GWNEUD Y CANLYNOL
- Cymryd bod yswiriant trydydd parti yn rhatach nag yswiriant cynhwysfawr
- Rhoi rhywun arall fel y gyrrwr cyntaf os mai eich car chi yw ef – mae’n ofynnol mai chi yw deiliad y polisi
- Addasu eich car, oherwydd gall addasiadau godi premiymau yswiriant
- Cael eich temtio i ddweud celwydd
- Anghofio bod math y car (a maint yr injan) yn cael effaith ar gost yr yswiriant
I gael rhagor o wybodaeth am yswiriant i yrwyr ifanc, rhowch gynnig ar y dolenni hyn:
Defnyddio eich Car
Hyd yn oed os oes gan eich car dystysgrif MOT cyfredol, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon i’w ddefnyddio ar y ffordd. Mae hynny’n cynnwys gwirio eich teiars, goleuadau a lefelau hylif yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, mae’n fanteisiol gwasanaethu eich car yn rheolaidd, lle gall olew’r injan gael ei newid ac unrhyw gydrannau treuliedig eu hailosod yn ôl yr angen. Mae gan bob gwneuthurwr ceir ofynion gwahanol, felly mae’n werth siarad gyda gwerthwr ceir neu fecanig lleol.
Mae RoSPA (Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau) wedi cynhyrchu canllaw fideo ddefnyddiol ar gynnal a chadw ceir sylfaenol. Gallwch ei gwylio hi
yma.
Efallai bydd y gwefannau eraill hyn yn ddefnyddiol hefyd:
- PetrolPrices.com – i ddod o hyd i’r prisiau petrol rhataf yn eich ardal a chyngor ar gael mwy o filltiroedd i bob litr o betrol.
- Traffig Cymru – adroddiadau traffig byw.
- Traffic-Update.co.uk – cynllunio eich taith, adroddiadau traffig byw a newyddion diogelwch ffyrdd.
- TheAA – y gost o gynnal car petrol neu diesel gan yr AA
- GoSafe – gwybodaeth gysylltiedig â chamerâu diogelwch, gan gynnwys ffeithiau, lleoliadau a chosbau.
- TyreSafe – gwybodaeth ar gynnal teiars a pheryglon teiars diffygiol ac anghyfreithlon.