20mya: Terfyn cyflymder newydd i Gymru
Gan ddechrau ar 17 Medi 2023, bydd terfyn cyflymder o 20mya ar gyfer gyrwyr yn dod i rym ar ‘ffyrdd cyfyngedig’ ledled Cymru. Mae hyn yn golyguy bydd y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyflymder 30mya yn lleihau o 30mya i 20mya.
Ystyr ‘cyfyngedig’ yn yr achos hwn yw ffyrdd sydd â goleuadau stryd ddim pellach na 200 llath ar wahân. Fel arfer, mae’r rhain mewn ardaloedd sy’n llawn adeiladau, gyda cherddwyr yn mynd a dod yn barhaus.
Fe wnaeth astudiaeth iechyd cyhoeddus Cymru amcangyfrif y gallai’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya arwain at:
● ostyngiad o 40% mewn gwrthgrawiadau ffordd
● achub 6 -10 bywyd bob blwyddyn
● ac osgoi anafiadau i 1,200-2,000 o bobl bob blwyddyn
Pasiwyd deddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Cyfyngiadau Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 gan y Senedd y llynedd. O dan y ddeddfwriaeth hon, awdurdodau lleol a’r ddwy asiantaeth gefnffyrdd fydd yn penderfynu pa ffyrdd ddylai aros gyda chyflymder o 30mya.
Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin