{"id":3539,"date":"2017-06-20T13:24:33","date_gmt":"2017-06-20T13:24:33","guid":{"rendered":"http:\/\/sundialtime.co.uk\/?page_id=3539"},"modified":"2017-08-21T11:13:37","modified_gmt":"2017-08-21T11:13:37","slug":"your-first-car","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/your-first-car\/","title":{"rendered":"Your First Car"},"content":{"rendered":"<p>[et_pb_section bb_built=&#8221;1&#8243; admin_label=&#8221;Section&#8221; fullwidth=&#8221;off&#8221; specialty=&#8221;off&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; custom_padding=&#8221;0px||0px|&#8221;][et_pb_row admin_label=&#8221;Row&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; background_position_1=&#8221;top_left&#8221; background_repeat_1=&#8221;no-repeat&#8221; custom_margin=&#8221;0px||0px|&#8221; custom_padding=&#8221;0px||0px|&#8221;][et_pb_column type=&#8221;4_4&#8243;][et_pb_text admin_label=&#8221;Text&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; background_layout=&#8221;light&#8221; text_orientation=&#8221;right&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221;]<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/dragondriver.com\/your-first-car\/\">English<\/a><\/p>\n<p>[\/et_pb_text][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section][et_pb_section bb_built=&#8221;1&#8243; admin_label=&#8221;section&#8221; fullwidth=&#8221;on&#8221; specialty=&#8221;off&#8221; background_color=&#8221;#ffb319&#8243; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; custom_padding=&#8221;0px||0px|&#8221; background_image=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/banner-firstcar.jpg&#8221; background_position=&#8221;top_center&#8221;][et_pb_fullwidth_header admin_label=&#8221;Fullwidth Header&#8221; background_layout=&#8221;light&#8221; text_orientation=&#8221;left&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; header_fullscreen=&#8221;off&#8221; header_scroll_down=&#8221;off&#8221; image_orientation=&#8221;center&#8221; content_orientation=&#8221;center&#8221; custom_button_one=&#8221;off&#8221; button_one_letter_spacing=&#8221;0&#8243; button_one_icon_placement=&#8221;right&#8221; button_one_letter_spacing_hover=&#8221;0&#8243; custom_button_two=&#8221;off&#8221; button_two_letter_spacing=&#8221;0&#8243; button_two_icon_placement=&#8221;right&#8221; button_two_letter_spacing_hover=&#8221;0&#8243; title_font_color=&#8221;#636363&#8243; title_font=&#8221;Lato||||&#8221; content_font=&#8221;Lato||||&#8221; content_font_size=&#8221;15px&#8221; subhead_font_color=&#8221;#606060&#8243; subhead_font=&#8221;Lato||||&#8221; logo_image_url=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/logosmall.png&#8221; disabled=&#8221;off&#8221; disabled_on=&#8221;on|off|&#8221; \/][\/et_pb_section][et_pb_section bb_built=&#8221;1&#8243; admin_label=&#8221;Section&#8221; fullwidth=&#8221;off&#8221; specialty=&#8221;off&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; custom_padding=&#8221;0px|||&#8221;][et_pb_row admin_label=&#8221;Row&#8221; background_position=&#8221;top_left&#8221; background_repeat=&#8221;repeat&#8221; background_size=&#8221;initial&#8221;][et_pb_column type=&#8221;3_4&#8243;][et_pb_text admin_label=&#8221;Text&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; background_layout=&#8221;light&#8221; text_orientation=&#8221;left&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221;]<\/p>\n<h4>Eich Car Cyntaf<\/h4>\n<hr \/>\n<h4>Cael Eich Trwydded<\/h4>\n<p>Gyda chymaint o reolau a rheoliadau i\u2019w dilyn, mae pethau\u2019n gallu ymddangos yn gymhleth ar adegau ac mae\u2019n hawdd esgeuluso\u2019r pethau sydd angen i chi eu gwneud er mwyn sicrhau nad ydych yn torri\u2019r gyfraith wrth ddefnyddio\u2019r ffordd.<\/p>\n<p>Rhaid i chi wneud nifer o bethau cyn eich bod yn gyrru car neu reidio beic modur ar y ffordd. Mae\u2019r rhain yn cynnwys cael trwydded yrru, cofrestru eich cerbyd a gwneud yn si\u0175r fod gennych yswiriant, treth ac MOT dilys. Os nad ydych yn gwneud yr holl bethau hyn, mae\u2019n bosibl y byddwch yn cael dirwy, pwyntiau cosb ar eich trwydded (hyd yn oed trwydded dros dro) ac mae yna bosibilrwydd y bydd eich cerbyd yn cael ei feddiannu a\u2019i ddinistrio.<\/p>\n<p>Hyd yn oed os ydych wedi meddu ar drwydded yrru lawn mewn gwlad arall yn y gorffennol, neu os oes gennych drwydded yrru dros dro yn y DU, rhaid i chi basio prawf theori a phrawf ymarferol cyn y gallwch yrru ar eich pen eich hun.<\/p>\n<ul>\n<li>Rhaid eich bod yn 17 oed o leiaf (16 oed os ydych yn derbyn lwfans byw i\u2019r anabl ar raddfa uwch).<\/li>\n<li>Rhaid bod gennych drwydded yrru dros dro ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. (<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/apply-first-provisional-driving-licence\">gallwch ymgeisio yma<\/a>)<\/li>\n<li>Rhaid eich bod yn gallu darllen rhif cofrestredig car o 20 metr i ffwrdd (gan wisgo sbectolau neu lensys cyffwrdd os oes eu hangen arnoch, a rhaid i chi eu gwisgo nhw bob tro y byddwch yn gyrru).<\/li>\n<li>Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw gerbyd rydych yn ei yrru yn addas ar gyfer y ffordd ac wedi\u2019i drethu a\u2019i yswirio\u2019n gywir ar eich cyfer.<\/li>\n<li>Rhaid i chi arddangos platiau L ar flaen ac ar gefn eich cerbyd (gallwch arddangos platiau L neu D yng Nghymru).<\/li>\n<li>Rhaid bod gyrrwr cymwys dros 21 oed sydd wedi dal trwydded yrru lawn am gyfnod o dair blynedd fynd yn gwmni i chi. Yn ddelfrydol, rydym yn argymell eich bod yn cael gwersi gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy ac yn ymarfer gydag aelod o\u2019ch teulu neu ffrind rhwng gwersi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>I gael mwy o wybodaeth, gallwch ymweld \u00e2\u2019r gwefannau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.safedrivingforlife.info\/\">Safe Driving for Life<\/a> &#8211; Gwefan dysgu gyrru a gynhyrchir gan y DVSA<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.helpingldrivers.com\/\">Helping L Drivers<\/a> &#8211; Gwefan sy\u2019n cynorthwyo pobl ifanc i ddysgu sut i yrru a reidio beic modur yn ddiogel.<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.yourdrivinglicence.co.uk\/\">Your Driving Licence<\/a> &#8211; Cael a chadw eich trwydded yrru.<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.smartdriving.co.uk\/\">Smart Driving <\/a> &#8211; Gwefan i yrwyr, dysgwyr a hyfforddwyr.<\/li>\n<\/ul>\n<p>I weld fersiwn ddiweddaraf Rheolau\u2019r Ffordd Fawr, cliciwch <a href=\"http:\/\/www.direct.gov.uk\/en\/TravelAndTransport\/Highwaycode\/index.htm\">yma.<\/a><\/p>\n<p><strong><em>Y DVLA a&#8217;r DVSA<\/em><\/strong><br \/>\nMae\u2019r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cofrestru a thrwyddedu pob gyrrwr ym Mhrydain Fawr, yn ogystal \u00e2 chasglu a gorfodi treth y ffordd. Mae\u2019r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn gweithredu profion gyrru, yn cymeradwyo darpar hyfforddwyr gyrru a phrofwyr MOT, yn gweithredu profion i sicrhau bod lor\u00efau a bysiau yn ddiogel i\u2019w gyrru, yn gweithredu gwiriadau ochr y ffordd ar yrwyr a cherbydau, ac yn monitro ad-alwadau cerbydau.<\/p>\n<h4>Prynu Car<\/h4>\n<p>Cyn i chi ruthro allan i brynu car, rhaid i chi ystyried y canlynol yn gyntaf. Os ydych yn bwriadu prynu car ail-law, gwiriwch y cerbyd cyn ei brynu er mwyn sicrhau mai\u2019r gwerthwr yw\u2019r perchennog cyfreithiol, nad oes unrhyw daliadau dros ben ar y cerbyd a\u2019i fod mewn cyflwr diogel ac addas ar gyfer y ffordd. Gallwch weld pa wybodaeth sydd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar ei <a href=\"http:\/\/www.gov.uk\/get-vehicle-information-from-dvla\">DVLA<\/a> gwefan. Bydd angen math a rhif cofrestredig y cerbyd arnoch i wneud hyn.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol hefyd:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwiriwch sg\u00f4r diogelwch eich car, neu\u2019r un rydych yn bwriadu ei brynu ar <a href=\"http:\/\/www.euroncap.com\/\">EuroNCAP.com<\/a>. Cliciwch ar y ddolen briodol i gael disgrifiad manwl o sut berfformiodd pob car unigol a sut maent yn cymharu gyda modelau eraill yn eu dosbarth<\/li>\n<li>Mae gan yr AA awgrymiadau ar brynu car ail-law: <a href=\"http:\/\/www.theaa.com\/car-buying\/buying-a-used-car-tips\">TheAA.com<\/a><\/li>\n<li>Cyngor ac awgrymiadau ar gyfer prynu, defnyddio a gwerthu car:<a href=\"http:\/\/www.whatcar.com\/car-advice\"> WhatCar.com <\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/firstcar.co.uk\/buying\/how-to-buy-a-used-car-introduction\">Mae First Car<\/a> yn cynnig cyngor yn arbennig ar gyfer gyrwyr newydd.<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Cael Yswiriant<\/h4>\n<p>Rhaid bod gennych <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/vehicle-insurance\">yswiriant<\/a> trydydd parti o leiaf sy\u2019n diogelu eich defnydd chi o\u2019r cerbyd, os mai chi yw\u2019r perchennog ai peidio. Golyga hyn fod gennych yswiriant os byddwch mewn damwain sy\u2019n achosi difrod neu anaf i unrhyw berson, cerbyd, anifail neu eiddo arall. Ni fydd yn talu unrhyw gostau eraill, er enghraifft adnewyddu eich cerbyd. Er mwyn yswirio eich cerbyd hefyd, bydd angen yswiriant cynhwysfawr arnoch.<\/p>\n<p>Byddwch yn yrrwr mwy diogel a mynnwch ostyngiadau posibl ar yswiriant drwy gwblhau <a href=\"http:\/\/dragondriver.com\/ppcindex.htm\">Pass Plus Cymru<\/a>.<\/p>\n<h4>Beth i\u2019w wneud a beth i beidio \u00e2\u2019i wneud o ran yswiriant<\/h4>\n<p><strong>GWNEWCH Y CANLYNOL<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Gwiriwch a chyfunwch yr HOLL wefannau cymharu prisiau<\/li>\n<li>Mynnwch ddyfynbrisiau gan gwmn\u00efau, nid gan safleoedd cymharu<\/li>\n<li>Ceisiwch ychwanegu ail yrrwr cyfrifol i\u2019ch polisi fel gyrrwr a enwir<\/li>\n<li>Ystyriwch bolisi sy\u2019n defnyddio technoleg i fonitro eich gyrru e.e. blwch du, apiau ac ati<\/li>\n<li>Hysbyswch eich yswiriwr am newidiadau ac amgylchiadau arbennig<\/li>\n<li>Rhowch gynnig ar bolis\u00efau aml-gerbyd os ydych yn byw gyda\u2019ch rhieni<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>PEIDIWCH \u00c2 GWNEUD Y CANLYNOL<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Cymryd bod yswiriant trydydd parti yn rhatach nag yswiriant cynhwysfawr<\/li>\n<li>Rhoi rhywun arall fel y gyrrwr cyntaf os mai eich car chi yw ef \u2013 mae\u2019n ofynnol mai chi yw deiliad y polisi<\/li>\n<li>Addasu eich car, oherwydd gall addasiadau godi premiymau yswiriant<\/li>\n<li>Cael eich temtio i ddweud celwydd<\/li>\n<li>Anghofio bod math y car (a maint yr injan) yn cael effaith ar gost yr yswiriant<\/li>\n<\/ul>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am yswiriant i yrwyr ifanc, rhowch gynnig ar y dolenni hyn:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"http:\/\/www.moneysavingexpert.com\/car-insurance\/young-drivers\">Money Saving Expert <\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.moneysupermarket.com\/car-insurance\/young-drivers\/\">Money Supermarket<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.theaa.com\/insurance\/young-drivers-car-insurance.html\">Yr AA <\/a><\/li>\n<\/ul>\n<h4>Defnyddio eich Car<\/h4>\n<p>Hyd yn oed os oes gan eich car dystysgrif MOT cyfredol, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon i\u2019w ddefnyddio ar y ffordd. Mae hynny\u2019n cynnwys gwirio eich teiars, goleuadau a lefelau hylif yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, mae\u2019n fanteisiol gwasanaethu eich car yn rheolaidd, lle gall olew&#8217;r injan gael ei newid ac unrhyw gydrannau treuliedig eu hailosod yn \u00f4l yr angen. Mae gan bob gwneuthurwr ceir ofynion gwahanol, felly mae\u2019n werth siarad gyda gwerthwr ceir neu fecanig lleol.<\/p>\n<p>Mae RoSPA (Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau) wedi cynhyrchu canllaw fideo ddefnyddiol ar gynnal a chadw ceir sylfaenol. Gallwch ei gwylio hi <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=h7FaGk30buI\">yma<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Efallai bydd y gwefannau eraill hyn yn ddefnyddiol hefyd:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"http:\/\/www.petrolprices.com\/\">PetrolPrices.com<\/a> &#8211; i ddod o hyd i\u2019r prisiau petrol rhataf yn eich ardal a chyngor ar gael mwy o filltiroedd i bob litr o betrol.<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.traffic-wales.com\">Traffig Cymru<\/a> &#8211; adroddiadau traffig byw.<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.traffic-update.co.uk\/\">Traffic-Update.co.uk<\/a> &#8211; cynllunio eich taith, adroddiadau traffig byw a newyddion diogelwch ffyrdd.<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.theaa\/\">TheAA<\/a> &#8211; y gost o gynnal car petrol neu diesel gan yr AA<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/gosafe.org\/\">GoSafe<\/a> &#8211; gwybodaeth gysylltiedig \u00e2 chamer\u00e2u diogelwch, gan gynnwys ffeithiau, lleoliadau a chosbau.<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.tyresafe.org\/\">TyreSafe<\/a> \u2013 gwybodaeth ar gynnal teiars a pheryglon teiars diffygiol ac anghyfreithlon.<\/li>\n<\/ul>\n<p>[\/et_pb_text][\/et_pb_column][et_pb_column type=&#8221;1_4&#8243;][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/smart.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/driving.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/driving-licence-full.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/young-driver-2.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/firstcar.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/steeringwheel.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/Tyre.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][et_pb_image admin_label=&#8221;Image&#8221; _builder_version=&#8221;3.0.51&#8243; src=&#8221;http:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/Car-Key.jpg&#8221; show_in_lightbox=&#8221;off&#8221; url_new_window=&#8221;off&#8221; use_overlay=&#8221;off&#8221; sticky=&#8221;off&#8221; align=&#8221;left&#8221; always_center_on_mobile=&#8221;on&#8221; border_style=&#8221;solid&#8221; force_fullwidth=&#8221;off&#8221; animation=&#8221;off&#8221; \/][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English Eich Car Cyntaf Cael Eich Trwydded Gyda chymaint o reolau a rheoliadau i\u2019w dilyn, mae pethau\u2019n gallu ymddangos yn gymhleth ar adegau ac mae\u2019n hawdd esgeuluso\u2019r pethau sydd angen i chi eu gwneud er mwyn sicrhau nad ydych yn torri\u2019r gyfraith wrth ddefnyddio\u2019r ffordd. Rhaid i chi wneud nifer o bethau cyn eich bod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_et_pb_use_builder":"on","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-3539","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3539","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3539"}],"version-history":[{"count":40,"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3539\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3859,"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3539\/revisions\/3859"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dragondriver.com\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3539"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}