Dysgais lawr iawn, a dylai’r cwrs fod yn orfodol i bob gyrrwr newydd.

SS

Môn

Cefais lawer o wybodaeth ac roedd hi’n braf cael mynd ar draffordd am y tro cyntaf gyda rhywun.

TT

Blaenau Gwent

Gwirioneddol werth chweil. Mae angen hysbysebu llawer mwy arno am nad yw llawer o ’nghyfeillion, fy nheulu a ’nghydweithwyr yn gwybod dim amdano.

AW

Caerdydd

Gwellodd y cwrs fy ngyrru a ’ngwneud i’n fwy ymwybodol o ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.

CP

Sir Gaerfyrddin

Ces i flas arbennig ar y drafodaeth ac ar y sesiynau ar y ffordd.

MH

Ceredigion

Rhoddodd y cwrs gyfle i mi ymarfer gyrru mewn llawer o fannau newydd. Profiad gwych.

CW

Conwy

Cwrs gwych. Ar ôl ei ddilyn, rwy’n yrrwr mwy diogel ac yn fwy ymwybodol o’r gwahanol sefyllfaoedd. Gwerth pob ceiniog o’r £20.00.

AH

Sir y Fflint

Cwrs effeithiol iawn, a dylai gael ei argymell yn gryf. Dylai fod yn orfodol ar ôl i chi lwyddo yn eich prawf gyrru.

RJ

Gwynedd

Da. Fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud oni bai am y cymorth ariannol a olygai na wnes i ond talu £20.00. Diolch.

PB

Sir Benfro

Er i mi ei wneud ef dim ond i gael yswiriant rhatach, rwy’n sylweddoli ei fod yn werth ei wneud er mwyn i mi yrru’n well ac yn fwy hyderus.

HS

Powys

Teimlwn fod y cwrs yn ddefnydd rhagorol o’m hamser a’m harian. Mae wedi meithrin fy hyder wrth yrru ar y draffordd yn ogystal â chynyddu fy ymwybyddiaeth yn gyffredinol. Byddwn i’n argymell y cwrs i bawb sydd newydd lwyddo yn ei brawf neu ei phrawf.

TD

Sir Benfro

Dylai hwn fod yn orfodol i bob gyrrwr newydd. Byddai’n gwneud i lawer feddwl ddwywaith cyn goryrru neu yrru’n hurt o wyllt.

HT

Wrecsam

Gwnaeth fy hyfforddwr i mi deimlo’n gyfforddus a rhoddodd hwb i’m hyder. Gwnaeth fy nhrin i fel gyrrwr cymwysedig a chynnig cyngor buddiol pan oedd angen hynny.

GH

Powys

Cwrs diddorol a llawn gwybodaeth. Asesodd yr hyfforddwr pa feysydd roedd angen i mi wella ynddyn nhw a dangosodd sut oedd gwneud hynny.

AJ

Caerdydd

Profiad difyr a buddiol iawn. Roedd yn hyfforddwr da iawn a chefais lawer o gynghorion llesol i wella rhagor ar fy ngyrru. Roedd y sesiwn ar theori’n ddefnyddiol, yn enwedig y rhan gyda’r swyddog tân – fe helpodd i wella fy agwedd at yrru a ’ngwneud i’n fwy ymwybodol o beryglon gyrru.

AT

Pen-y-bont ar Ogwr